P-05-706 – Sicrhau bod ein Cynghorau yn cael eu Hadfywio drwy Gyflwyno Tymor Sefydlog

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Paul Stepczak ar ôl casglu 19 llofnod.

Geiriad y ddeiseb

Rwy’n cynnig er mwyn sicrhau bod ein cynghorau a’n cymunedau yn parhau i symud ymlaen, bod aelodau etholedig o’r cabinet a’r cyngor yn cael parhau yn eu swyddi am uchafswm o 2 dymor (8 mlynedd) yn unig yn ein cynghorau lleol. Bydd hyn yn darparu cylch parhaus o gynrychiolwyr lleol fydd yn dod â syniadau a brwdfrydedd newydd i’n cymunedau. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i Gymru ddatblygu cenhedlaeth newydd o wleidyddion ifanc.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Merthyr Tudful a Rhymni

·         Dwyrain De Cymru